Archive for Exhibitor
Mudiad meithrin
Mae gwasanaethau ‘Cymraeg i Blant’ ar gael o’r cychwyn cyntaf i helpu rhieni newydd i siarad Cymraeg â’u plentyn yn y cartref ac i’w cefnogi wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Mae ein grwpiau wythnosol am ddim o’r enedigaeth fel Tylino babi, a Ioga babi ac Arwyddo stori a chân yn helpu rhieni i ddysgu mwy am ba hwiangerddi, llyfrau ac apiau y gellir eu cyflwyno yn y cartref – maen nhw hefyd yn gyfle i rieni gymdeithasu a chwrdd â rhieni newydd.
Mentrau Iaith Cymru
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn cefnogi’r rhwydwaith o ‘Fentrau Iaith’ trwy amryw o weithgareddau.
Ein prif nod yw cefnogi’r Mentrau Iaith:
- Darparu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, syniadau a chydweithio drwy amrywiaeth o gyfarfodydd, cynadleddau a hyfforddiant.
- Dylanwadu er budd y Gymraeg, trwy ymateb i ymgynghoriadau ar eu rhan.
- Datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol.
- Cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisïau mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.
Mae hyrwyddo gweithgareddau’r Mentrau Iaith a chreu ymgyrchoedd cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan fawr o waith MIC.
National Lottery Heritage Fund
Gydag arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau o rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â’u treftadaeth. Rydym hefyd yn dosbarthu arian ar ran llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig.
Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol rydych chi’n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn lle ac yn cefnogi economïau lleol.
Ers 1994, rydym wedi dosbarthu dros £9.2 biliwn i fwy na 52,000 o brosiectau ledled y DU.
https://www.heritagefund.org.uk/
National Churches Trust
Cenhadaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yw gweld casgliad gwych Cymru o eglwysi, capeli a thai cyfarfod hanesyddol yn parhau’n agored, yn cael eu defnyddio ac mewn cyflwr da. Rydym yn falch o gefnogi’r adeiladau rhyfeddol, pwysig hyn, a’r bobl sy’n dod â nhw’n fyw. Maen nhw’n gonglfeini diwylliant Cymru, asedau cymunedol gwerthfawr sy’n darparu gweithgareddau hanfodol a phrofiad allweddol i ymwelwyr.
Rydym yn rhoi arweiniad, cymorth swyddogion o bell ac yn bersonol, rhaglen grantiau, mynediad at hyfforddiant, mewnbwn twristiaeth, ynghyd â mewnwelediad menter a chynhyrchu incwm i sicrhau bod y mannau anhygoel hyn yn parhau i wasanaethu eu cymunedau ac yn diogelu treftadaeth y genedl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
www.nationalchurchestrust.org/get-support/cherish-support-scotland-wales-cymru-and-north-west-england/get-support-wales-cymru
Mencap Cymru
Mae Mencap Cymru eisiau i Gymru fod y lle gorau i bobl ag anabledd dysgu fyw ynddo.
Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn ymwneud â sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal, yn cael eu cynnwys a bod eu llais yn cael ei glywed.
Rydym yn cynnal Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan gynnwys Gwyliau Banc.
https://wales.mencap.org.uk/
Localgiving
Sefydlwyd Localgiving mewn ymgais i gynnig gwasanaethau rhoddion digidol a phresenoldeb ar-lein i elusennau’r DU ar adeg pan oedd y ddau allan o gyrraedd y rhan fwyaf o fudiadau.
Ers 2012 rydym wedi bod yn falch o gysylltu mudiadau llawr gwlad â rhoddion, codi arian a grantiau yn ogystal ag adnoddau a chefnogaeth. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar ddod â thechnoleg flaengar i hyd yn oed y lleiaf o elusennau a grwpiau cymunedol, bob amser yn canolbwyntio ar eu helpu nhw i godi mwy o arian.
www.localgiving.org
HSF health plan
Mae Cynllun Iechyd HSF yn cynnig cynlluniau arian parod iechyd fforddiadwy i helpu unigolion a theuluoedd i reoli costau gofal iechyd bob dydd. Rydym yn talu treuliau fel ymgynghoriadau deintyddol, optegol, ffisiotherapi, ac arbenigol. Mae’r holl elw yn cefnogi ein rhiant-elusen, The Hospital Saturday Fund, sy’n darparu grantiau i elusennau meddygol, lleoliadau dewisol meddygol, ac unigolion mewn angen.
Mae ein cynlluniau yn gwneud gofal iechyd yn fwy hygyrch, yn lleihau straen ariannol, ac yn annog llesiant rhagweithiol. Rydym yn creu partneriaeth â mudiadau ac elusennau i hyrwyddo gwell iechyd, gan gynnig ffordd syml ac ymarferol o reoli costau meddygol gan gyfrannu at effaith gymdeithasol gadarnhaol ar yr un pryd.
www.hsf.co.uk
Learning Disability Wales
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn elusen genedlaethol sy’n cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.
Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu gael byw, dysgu caru a gweithio ynddi.
Rydym yn chwarae rhan unigryw yn y broses o wneud i hyn ddigwydd – trwy ein gwasanaethau ein hunain, gweithio mewn partneriaeth â mudiadau erailll, a dylanwadu ar bolisi.
Hugh James Solicitors
Yn Hugh James, rydym yn deall yr heriau unigryw sy’n wynebu elusennau a mudiadau nid-er-elw. Mae ein Tîm Elusennau ymroddedig yn cyfuno arbenigedd cyfreithiol eang gyda dealltwriaeth glir o’r angen am benderfyniadau masnachol cadarn, gan ganolbwyntio’n gryf ar eich nodau elusennol craidd.
Gyda blynyddoedd o brofiad yn cynghori ystod amrywiol o elusennau lleol a chenedlaethol ledled Cymru a Lloegr, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ymarferol a chyfreithiol sy’n galluogi’ch mudiad i ffynnu.
hughjames.com
Home-Start Cymru
Mae Home-Start Cymru, (HSC) wedi bod yn ffynhonnell gymorth ddibynadwy i deuluoedd ledled Cymru ers dros 25 mlynedd. Rydym yn darparu gwasanaethau tosturiol, a arweinir gan anghenion sydd wedi’u cynllunio i rymuso rhieni a gofalwyr i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar feithrin yr hyder, y sgiliau a’r cysylltiadau sydd eu hangen ar deuluoedd i greu amgylcheddau diogel a chariadus lle gall plant ffynnu.
Mae HSC yn cynnig gwasanaeth cymorth penodol trwy ein model cymorth dan arweiniad gwirfoddolwyr, ein dull o gyflawni sy’n ystyriol o drawma, ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth a thrwy gyd-gynhyrchu. Rydym yn sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cymorth ymarferol ac emosiynol wedi’i deilwra i’w hanghenion unigol.