Archive for Exhibitor
Geldards
Rydym yn gwmni cyfreithiol masnachol sy’n arbenigo mewn cyfraith elusennol a dyma’r unig gwmni cyfreithiol sydd wedi’i restru yn yr haen uchaf ar gyfer gwaith elusennol yng Nghymru.
Rydym yn gwmni cyfreithiol cenedlaethol gwasanaeth llawn cadarn a llwyddiannus a sefydlwyd dros 100 mlynedd yn ôl yng Nghymru. Yn greiddiol i’n busnes yw bod yn agored a chyfeillgar gydag uniondeb diysgog. Ein nod yw datblygu perthnasoedd hirdymor, buddiol i’r ddwy ochr, gyda’n holl gleientiaid. Rydym yn deall a byddwn yn cefnogi eich awydd i ffynnu a llwyddo.
www.geldards.com
HEIW – Health Education Improvement Wales
AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) yw corff cynllunio gweithlu a datblygiad proffesiynol y GIG, ac rydym yn canolbwyntio ar y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol – y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Ei nod yw cynyddu’r gweithlu iechyd meddwl, cefnogi datblygiad proffesiynol o fewn maes iechyd meddwl a gweithio’n agosach gyda mudiadau partner i ddarparu gwell gwasanaethau iechyd meddwl.
https://aagic.gig.cymru/gweithlu/cynllun-gweithlu-iechyd-meddwl-strategol/
Hapus
Ni yw Hapus, gofod sydd wedi ymrwymo i les meddyliol, lle rhanwyd syniadau ac adnoddau i ysbrydoli pob un ohonom i gymryd camau i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol ni a phobl eraill.
A ydych chi’n sefydliad sy’n gwella lles meddyliol? Ymunwch a’n symudiad i amddiffyn a gwella lles meddyliol pobl yng Nghymru, boed eich bod yn cefnogi unigolion neu yn dod â phobl at ei gilydd yn eich cymuned.
Dewch draw, dywedwch helô, ac ymunwch a’r sgwrs cenedlaethol ar lesiant.
Disability Wales
Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs) sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb pob person anabl. Ein rôl graidd yw mynegi safbwyntiau a blaenoriaethau aelodau i’r llywodraeth gyda’r nod o lywio a dylanwadu ar bolisi.
Rydym yn cymryd rhan weithredol wrth ddylanwadu ar waith y Tasglu Hawliau Anabledd a chefnogi ymgysylltiad aelodau wrth ddatblygu’r Cynllun Gweithredu. Rydym yn darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau llawn o Sefydliadau Pobl Anabl ac yn cynnal prosiectau sydd â’r bwriad o gynyddu cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus gan gynnwys y Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth.
www.disabilitywales.org/?lang=cy
Drive Wales
Mae Drive yn ddarparwr ar gyfer y rhai sy’n byw â chymorth. Rydym yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, awtistiaeth ac iechyd meddwl.
Rydym yn fudiad arloesol yn ne Cymru sy’n darparu cymorth sy’n torri tir newydd i bobl ag anableddau dysgu i fyw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis yn eu cymunedau lleol. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, rydym yn darparu cymorth staff o ansawdd uchel a llety er mwyn i bobl fwynhau’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis, gyda’r lefel gywir o gefnogaeth i wneud hynny.
https://www.drive-wales.org.uk/
Cymru Versus Arthritis
Mae gan y mudiad Cymru Versus Arthritis ddegawdau o brofiad yn trawsnewid bywydau pobl sydd ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, ymchwilwyr a phobl ag arthritis o bob oed i wneud popeth y gallwn i gyflawni ein gweledigaeth o ‘ddyfodol heb arthritis’. Rydym yn gwneud hyn trwy fuddsoddi mewn ymchwil o’r radd flaenaf, darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, ac ymgyrchu ar y materion pwysicaf i bobl ag arthritis.
Mae partneriaeth a chydweithredu yn greiddiol i’n mudiad.
Mae ein cefnogaeth yn helpu i leihau ynysigrwydd, meithrin gwydnwch a hyder, datblygu sgiliau hunanreoli a chyflawni canlyniadau gwell i bobl ag arthritis.
www.versusarthritis.org
Eye to Eye Counselling Service
Mae Llygad yn Llygad yn wasanaeth cwnsela am ddim a sefydlwyd ym 1995 ac sy’n gweithio ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn darparu tua 9,000 o sesiynau cwnsela y flwyddyn i rai 10 i 30 oed a hefyd yn cefnogi tua 300 o blant ac oedolion sydd wedi dioddef trawma yn sgil digwyddiad yn eu cartref neu gymuned.
Rydym yn cynnig hyfforddiant pwrpasol yn ein maes arbenigedd, sef plant a phobl ifanc, i fudiadau a’r sector gwirfoddol. Rydym hefyd yn cefnogi colegau lleol trwy ddarparu lleoliadau myfyrwyr i gwnselwyr dan hyfforddiant.
Data Cymru
Mae Data Cymru yn gwmni llywodraeth leol yng Nghymru ac rydym yn cynnig ystod o gymorth arbenigol sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i ddata a’u defnyddio’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys:
- Cymorth i ganfod, casglu neu goladu data.
- Dadansoddi data a chyflwyno data’n effeithiol.
- Cyngor ar y ffyrdd gorau o ymgymryd â gwaith ymchwil.
- Cymorth i ddarganfod beth y mae dinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid yn ei feddwl.
- Hyfforddi’ch staff mewn pynciau perthnasol megis ystadegau sylfaenol, cyflwyno data, rheoli perfformiad, dylunio a dadansoddi arolygon, a dylunio holiaduron ac ati.
- Darparu mynediad cost-effeithiol i ystod o setiau data masnachol.
https://www.data.cymru/cym/
Cwmpas
Mae Cwmpas yn gweithio ar draws sectorau er mwyn cyflawni newid cadarnhaol i greu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal. Credwn y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio mewn modd gwahanol i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb lle mae mwy o fusnesau yn defnyddio eu helw er lles a lle mae cymunedau’n cael eu grymuso i lunio eu dyfodol eu hunain.
Rydym yn fudiad cenedlaethol sydd wedi’i wreiddio mewn ardaloedd lleol, ac rydym yn cefnogi cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i wella ac arloesi. Mae ein gwaith yn cynnwys cyngor busnes arbenigol, cymorth busnes cymdeithasol, cynhwysiant digidol, datrysiadau tai a gofal a arweinir gan y gymuned ac ystod o wasanaethau dysgu, datblygu ac ymgynghori.
https://cy.cwmpas.coop/
Welsh Language Commissioner
Mae tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda’r trydydd sector (yn ogystal â busnesau) er mwyn eu hannog a’u cynorthwyo i gynyddu eu gwasanaethau Cymraeg. Rydym yn cynorthwyo mudiadau i greu cynlluniau datblygu’r Gymraeg, yn cynnal hyfforddiant, cynnal ymchwil, a chreu canllawiau. Rydym yn cynnig sgyrsiau un-i-un gyda mudiadau’r trydydd sector er mwyn trafod unrhyw gymorth sydd ar gael.