Archive for Exhibitor
Samaritans
Mae’r Samariaid yn wasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae tua 800 o wirfoddolwyr yn gweithio yn ein naw cangen yng Nghymru, ac yn ymateb i alwadau dros y ffôn, e-bost, neges destun ac yn bersonol – yn ein canghennau neu mewn digwyddiadau ledled Cymru.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r cyfryngau i hysbysu’r cyhoedd ac esbonio sut y gallwn helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd ymlaen eu hunain.
Rydym yn estyn allan at grwpiau lle mae risg uchel o hunanladdiad. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill i gyflawni newid yn lleol, a llywio penderfyniadau polisi sy’n cael effaith ar risg hunanladdiad.
https://www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/
Public Services Ombudsman Wales
Sefydlwyd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ym mis Ebrill ac mae’r Ombwdsmon presennol, Michelle Morris wedi bod yn y swydd ers mis Ebrill 2022.
Rôl yr OGCC yw:
- Ymchwilio i gwynion bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
- Ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr Cymru wedi torri eu Cod Ymddygiad.
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru.
https://www.ombwdsmon.cymru
Royal Voluntary Service (RVS)
Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn cynnull gwirfoddolwyr i gefnogi’r GIG a phobl mewn angen, er mwyn meithrin gwydnwch mewn cymunedau lleol. Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio gyda thimau gofal iechyd ac mewn cymunedau, gan ddarparu cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol pan fydd pobl yn ei chael hi’n anodd.
Fel un o sefydliadau gwirfoddoli mwyaf Prydain, rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol sy’n cefnogi iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol a llesiant. Mae’r gefnogaeth a ddarparwn (o gludo pobl adref o’r ysbyty i gynnal llyfrgelloedd cartref a darparu cymorth cwmnïaeth) yn hyrwyddo gwell iechyd, rhyngweithio a chysylltu cymdeithasol, gan leddfu’r pwysau ar y GIG a’r System Gofal.
https://www.royalvoluntaryservice.org.uk/
RNIB Cymru
RNIB Cymru yw’r elusen golled golwg fwyaf yng Nghymru, sy’n darparu cymorth a gwasanaethau i bobl ddall a’r rhai sy’n gweld yn rhannol, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Ein nod yw gwella bywydau a grymuso pobl i addasu i golled golwg a chadw eu hannibyniaeth. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ledled Cymru i ddarparu prosiectau, hyfforddiant, gwasanaethau a rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
rnib.org.uk/cy/nations/cymruwales/
Pugh Computers
Gyda 44 mlynedd o brofiad, mae Pugh yn grymuso mudiadau gwirfoddol drwy ddatrysiadau technoleg arloesol a dwyieithog.
Fel Darparwr Dibynadwy CGGC a Phartner Datrysiadau Gwaith Modern Microsoft gydag Arbenigedd mewn Rheoli Addasiadau a Newid, rydym yn cynnig gwasanaethau wedi’u teilwra sy’n datrys heriau’r byd go iawn.
Mae ein harbenigedd yn cwmpasu trwyddedau a chydymffurfiaeth â meddalwedd, mannau cwrdd hybrid a gwasanaethau proffesiynol – sydd wedi’i wella gyda’n Siop Glyweledol a Chaledwedd newydd sbon. Rydym ar flaen y gad o ran mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial (AI) gydag arddangosfeydd, gweithdai a digwyddiadau ‘promptathon’ Microsoft Copilot.
Rydym yn falch o fod yn gweithio yng Nghymru, ac yma i’ch helpu i weithio’n fwy craff a gwneud mwy o effaith.
www.pugh.co.uk
Newid
Mae Newid yn hyrwyddo ymarfer digidol da ar draws y trydydd sector yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Cyflawnir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, sy’n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o safonau gwasanaethau digidol CGCD (Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol) ar gyfer Cymru.
Dewch draw i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael gwybodaeth, cynigion hyfforddi, a chefnogaeth
https://www.newid.cymru/
nfpResearch
Mae nfpResearch yn asiantaeth ymchwil i’r farchnad flaenllaw yn y sector nid-er-elw. Rydym yn darparu mewnwelediadau sy’n cael eu hysgogi gan ddata i elusennau a mudiadau nid-er-elw sy’n eu grymuso i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a manteisio i’r eithaf ar eu heffaith wrth helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Rydym yn cynnal ystod o waith ymchwil ledled y DU, o dracio brand ar y cyd â’r cyhoedd a gwleidyddion i ymchwilio gyda chyllidwyr a newyddiadurwyr. Gan fabwysiadu ystod o fethodolegau ymchwil, rydym yn bwriadu cefnogi elusennau i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth, gan eu helpu i lywio drwy heriau a manteisio i’r eithaf ar eu heffeithiolrwydd mewn tirwedd elusennol sy’n esblygu.
https://nfpresearch.com/
Outcomes Star
Rydym yn cefnogi mudiadau i ymgorffori’r Outcomes Star yn eu gwaith a’i ddefnyddio’n dda! Mae Outcomes Star yn ddull sy’n seiliedig ar ymchwil, sy’n canolbwyntio ar y person ar gyfer tywys unigolion a’r bobl sy’n eu cefnogi ar hyd taith o newid. Mae’r dull yn integreiddio mesur canlyniadau o fewn cefnogaeth un-i-un, gan ei gwneud hi’n haws i’r rhai sy’n cael eu cefnogi a’r rhai sy’n cefnogi weld, deall a dathlu pob carreg filltir ar eu llwybr cynnydd.
www.outcomesstar.org.uk
ProMo Cymru
Mae ProMo Cymru yn gweithio i Gyfathrebu/Dylunio/ a Datblygu gyda phobl ifanc a chymunedau i wneud i newid ddigwydd. Mae ProMo yn creu partneriaeth â’r trydydd sector a sectorau cyhoeddus er mwyn Dychmygu/Profi/Creu gwasanaethau tecach sy’n cael eu cynllunio a’u cyflawni gyda phobl. Mae ProMo yn elusen gofrestredig a menter gymdeithasol.
https://promo.cymru/cy/
Plattform
Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n profi problemau gyda’u hiechyd meddwl, a chymunedau, i greu mwy o ymdeimlad o gysylltiad, perchnogaeth a lles.
Rydym yn mabwysiadu dull gweithredu cyfannol a chyfiawnder cymdeithasol o ran iechyd meddwl, gan edrych ar achosion sylfaenol trallod a chreu systemau ar gyfer cymunedau ffyniannus.
I’r rhai sy’n gweithio mewn ‘systemau cymorth’ mae’n ymwneud â sut rydym yn meddwl am y systemau hynny ac am weithredu ynddyn nhw, gan ddeall pwysigrwydd iechyd perthynol ac effaith y penderfynyddion cymdeithasol ar ein hiechyd meddwl.
Mae Lles Platfform yn darparu hyfforddiant ynghylch iechyd meddwl, arweinyddiaeth, cymorth lles yn y gweithle, goruchwyliaeth a chwnsela i fudiadau ac unigolion.
https://platfform.org/cy/