Archive for Exhibitor
Velindre Cancer Charity (Velindre University NHS Trust)
Elusen Felindre yw cangen elusennol swyddogol Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chanolfan Ganser Felindre, a elwir yn Ysbyty Gobaith. Felindre yw’r prif ddarparwr cemotherapi a radiotherapi yng Nghymru ac mae disgwyl iddo ehangu ein gwasanaethau yn ystod y ddwy i bum mlynedd nesaf.
Drwy arian a godir gan roddwyr a gweithgareddau codi arian, rydym yn gallu cyllido llawer iawn o brosiectau a gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru gan gynnwys gwasanaethau seicoleg, gwasanaethau hawliau lles, rolau gwybodaeth i gleifion, rhaglen ar gyfer gwirfoddoli mewn ysbyty, 50% o nyrsys arbenigol, adnoddau plant, ymchwil arloesol a threialon clinigol, a llawer mwy.
www.velindrefundraising.com
Thirtyone:eight
Mae Thirtyone:eight yn elusen Gristnogol annibynnol sy’n darparu cyngor proffesiynol, hyfforddiant, cymorth ac adnoddau ym mhob maes diogelu plant ac oedolion mewn perygl o niwed. Rydym wedi bod yn gweithio gydag eglwysi ers 1971.
Mae Thirtyone:eight yn helpu unigolion, mudiadau, elusennau, grwpiau ffydd a chymunedol i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed rhag camdriniaeth.
Ein gweledigaeth yw byd lle gall pob plentyn ac oedolyn deimlo’n ddiogel a bod yn ddiogel.
https://thirtyoneeight.org/
Tenovus Cancer Care
Mae Gofal Canser Tenovus yn elusen yng Nghymru sy’n rhoi cymorth, gobaith a llais i bawb yr effeithir arnyn nhw gan ganser. Mae ein hystod eang o wasanaethau’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth arbenigol i bobl sy’n byw gyda chanser, a’u hanwyliaid.
Mae ein nyrsys profiadol yma 365 diwrnod y flwyddyn i ateb unrhyw gwestiynau am ganser. Gallwn helpu gyda phryderon ynghylch arian a darparu lle diogel i siarad am effaith emosiynol diagnosis.
Rydym yn dod â thriniaethau yn agosach at adref, ac mae ein rhwydwaith unigryw o gorau yn hwyl, y gyfeillgar ac yn codi calon. Mae llawer o’n gwasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
https://www.tenovuscancercare.org.uk/
Y Brifysgol Argoed yng Nghymru
Y Brifysgol Agored yw darparwr mwyaf addysg uwch rhan-amser i israddedigion yng Nghymru. Mae ymhlith y gorau yn y byd am ddarparu cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau i israddedigion a myfyrwyr ôl-radd a chyrsiau mynediad.
Mae mwy na 15,500 o fyfyrwyr o gymunedau ar hyd a lled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored (OU) ar hyn o bryd, a mwy na dwy ran o dair o’r rhain mewn cyflogaeth wrth iddynt astudio. Mae’r OU yn gweithio gyda busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu eu staff, ac yn annog mwy o bobl i mewn i’r maes dysgu gydol oes, waeth beth yw eu cefndiroedd.
Yn Gofod3 byddwn yn canolbwyntio ar y rhaglen Elwa drwy Wirfoddoli, Dysgu Agored (cynnig am ddim yr OU) a bydd staff yr OU yn cynnig arweiniad ar sut gallwn barhau i weithio gyda’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Tempo Time Credits
Mae Credydau Amser Tempo yn offeryn unigryw ac arloesol a ddatblygwyd gan Tempo. Mae Credydau Amser yn gwasanaethu fel arian cyfred cymunedol y mae unigolion yn ei ennill am wirfoddoli eu hamser mewn prosiectau a mentrau cymunedol amrywiol.
Yna gellir cyfnewid y Credydau Amser a enillwyd am fynediad at wasanaethau, digwyddiadau neu weithgareddau o fewn y gymuned. Mae hyn nid yn unig yn annog ac yn gwobrwyo gwirfoddoli ond hefyd yn hyrwyddo ymdeimlad o ymgysylltu â’r gymuned a chydberthynas.
https://wearetempo.org/
Sport Diversity Cymru
Yn Sport Diversity Cymru rydym yn hyrwyddo pŵer trawsnewidiol chwaraeon fel grym ar gyfer undod a llawenydd. Rydym yn grymuso cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru drwy chwaraeon, gan ddarparu amgylchedd sy’n hybu cysylltiad, rhagoriaeth a thwf.
Rydym yn ymroddedig i agor drysau i gyfleoedd ac amlygu’r rhai sy’n esiampl ac yn ysbrydoli. Mae ein cefnogaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r gêm, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a photensial trwy addysg ac ymgysylltu â’r gymuned.
https://www.linkedin.com/company/sports-diversity-cymru/?viewAsMember=true
Stori Wales
Mewn byd delfrydol, dylai pawb fod â chartref lle gallant ffynnu ynddo. Ond nid yw’r byd yn ddelfrydol, a dyna pam rydym ni yma.
Dechreuon ni fel Hafan Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, i helpu pobl sy’n byw mewn ofn o gam-drin domestig. Newidiodd yr enw i Stori yn 2023 oherwydd yr oeddem yn teimlo ei fod yn dweud mwy amdanom ni.
Rydym yn gymdeithas dai gofrestredig sy’n darparu cymorth arbenigol i unigolion a theuluoedd mewn argyfwng, gan gynnwys VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) a chyrsiau hyfforddi mewn pynciau sy’n gysylltiedig ag Iechyd Meddwl a gwersi perthynas iach ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.
www.storicymru.org.uk
Sported Foundation
Mae Sported yn darparu adnoddau i rwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol, gan gefnogi tua miliwn o bobl ifanc bob blwyddyn i oresgyn rhwystrau er mwyn gwireddu eu potensial llawn.
Trwy gryfhau effaith, cynaliadwyedd a chynhwysiant clybiau chwaraeon cymunedol llawr gwlad, mae Sported yn sicrhau bod pobl o’n holl gymunedau yn cael mynediad cyfartal at weithgarwch corfforol, ac elwa ar sut mae chwaraeon yn newid bywydau.
Trawsnewid bywydau a chymunedau trwy chwaraeon llawr gwlad.
www.sported.org.uk
Senedd Cymru
Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. O fis Mai 2026 ymlaen bydd rhai newidiadau i’r Senedd, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr Aelodau, newidiadau i’r systemau pleidleisio ac etholaethau newydd.
Scouts Cymru
Mae ScoutsCymru yn cynrychioli’r mudiad Sgowtio bywiog yng Nghymru. Bob wythnos, mae ein tîm ymroddedig o 4,500 o wirfoddolwyr yn cefnogi dros 14,000 o bobl 4 i 25 oed ledled Cymru, gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer yr ysgol, y coleg, y brifysgol, y cyfweliad ar gyfer swydd, yr araith bwysig, yr her anodd a’r breuddwydion mawr: y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd. Rydym yn gwneud hyn trwy addysg awyr agored, antur, hwyl a chyfeillgarwch.
https://scoutscymru.org.uk/