Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Pa rôl allai/ddylai prifysgolion, fel y Brifysgol Agored yng Nghymru, ei chwarae wrth gefnogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru?

Gorffennaf 2 @ 10:00 am - 11:00 am


Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cefnogi gwirfoddolwyr drwy eu rhaglen hyfforddi ‘Elwa drwy Wirfoddoli’, ond beth arall allen nhw/ddylen nhw fod yn ei wneud yn y sector? Maen nhw’n awyddus i glywed eich barn.

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cynnwys y canlynol:

  • Hyfforddiant eiriolaeth Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer y sector gwirfoddol
  • Rhaglen Elwa drwy Wirfoddoli, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn
  • Partneriaethau eraill yn y sector a sut mae’r Brifysgol Agored yn cefnogi prosesau DPP staff
  • Archwilio OpenLearn, sef gwefan y Brifysgol ar gyfer dychwelyd i ddysgu, sy’n cynnwys 1,000 o gyrsiau am ddim a 10,000 o raglenni rhyngweithiol, papurau, gemau ac adnoddau dychwelyd i ddysgu eraill, sydd i gyd am ddim.

You must be logged in to register for this event.

Lleoliad