Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Mwy na geiriau yn unig: Creu diwylliant ystyrlon ac effeithiol sy'n seiliedig ar gryfderau

Gorffennaf 17 @ 10:20 am - 11:10 am


Sonnir yn aml am weithio yn seiliedig ar gryfderau, ond sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol mewn gwirionedd? Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn archwilio sut i greu diwylliant mewnol gwirioneddol gefnogol, gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau i adeiladu timau effeithiol. Mae’r sesiwn yn mynd i’r afael â thri chwestiwn allweddol: sut i feithrin profiad bywyd ac angerdd i wasanaethu eich buddiolwyr yn well; sut i alluogi pawb yn eich mudiad i gyfrannu yn y ffordd orau; a beth all helpu neu herio’ch dull gweithredu, a sut i osgoi trafferthion posibl. Byddwch yn gadael gyda darlun cliriach o’r safbwyntiau a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn eich mudiad eich hun, a syniadau ymarferol ar gyfer dod o hyd iddynt a’u datblygu ar draws staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid.

You must be logged in to register for this event.

Cyflwynwyr

Lleoliad