Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Arloesedd traws-sector mewn Gwirfoddoli

Gorffennaf 17 @ 11:20 am - 12:10 pm


Nod Sefydliad Lloyds Bank yw hybu gwirfoddoli effeithiol, am ei fod yn cydnabod ei bŵer i gryfhau cymunedau ledled Cymru. Yn anffodus, nid oes digon o wirfoddoli corfforaethol yn cael ei ddefnyddio o hyd, ac mae llawer o fudiadau yn wynebu heriau wrth recriwtio, hyfforddi, rheoli a chadw gwirfoddolwyr. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn gwahodd cyfranogwyr i rannu eu profiadau a’u safbwyntiau er mwyn deall y rhwystrau i wirfoddoli effeithiol yn well. Ymunwch â’r sesiwn hon i ddysgu sut i ddatgloi potensial llawn gwirfoddoli yng Nghymru, trwy edrych ar beth sy’n gwneud partneriaethau corfforaethol-cymunedol yn llwyddiannus, sut gallai gwirfoddoli corfforaethol gefnogi eich mudiad a thrafod y buddion i wirfoddolwyr, elusennau a phartneriaid corfforaethol.

You must be logged in to register for this event.

Lleoliad