2026 Exhibitors
Your selected filters:
Utility Aid
Y Brifysgol Argoed yng Nghymru
Y Brifysgol Agored yw darparwr mwyaf addysg uwch rhan-amser i israddedigion yng Nghymru. Mae ymhlith y gorau yn y byd am ddarparu cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau i israddedigion a myfyrwyr ôl-radd a chyrsiau mynediad.
www5.open.ac.uk/wales/cy
National Lottery Community Fund
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn mai cymuned yw’r man cychwyn. Dyna pwy yr ydym yn ei gwasanaethu, a dyna lle y byddwch yn dod o hyd i ni, ym mhob cwr o’r wlad. Mae ein grantiau’n ceisio rhoi’r pŵer i bobl adeiladu a chryfhau eu cymuned, drwy eu cefnogi i ddod ynghyd a gwella bywydau.
Rydym yn cefnogi cymunedau ledled Cymru i ffynnu drwy ddyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae ein harian yn cefnogi amrywiaeth eang o fudiadau – mawr a bach – i gyflawni gweithgareddau sy’n trawsnewid bywydau pobl ac yn helpu cymunedau.
https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
Lloyds Bank Foundation
Glamorgan Voluntary Services
Recruit3
Office of the Future Generations Commissioner & PAVS
All Wales Forum
Mae’r Fforwm yn unigryw ymhlith cyrff Anableddau Dysgu yng Nghymru, oherwydd hwn yw’r unig fudiad sydd dim ond yn canolbwyntio ar gynrychioli barnau Rhieni a Gofalwyr pobl ag anableddau dysgu yn genedlaethol ac yn dorfol. Rydym yn gorff ymbarél i fudiadau a grwpiau cymorth lleol a rhanbarthol sy’n cynnwys rhieni a gofalwyr. Mae ein partneriaid cynghrair ehangach yn rhannu ymrwymiad i geisio gwella hawliau rhieni a gofalwyr a theuluoedd sy’n cefnogi anwyliaid sy’n byw ag anabledd dysgu ac i roi mwy o gydnabyddiaeth iddynt. Mae’r Fforwm hefyd yn cael ei reoli gan rieni a gofalwyr, gan sicrhau bod ein cleientiaid yn cael mewnbwn clir i gyfeiriad strategol a gwaith craidd y mudiad.
https://www.allwalesforum.org.uk/ (Saesneg yn unig)
CGGC
CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae pobl Cymru bob amser wedi dod at ei gilydd o’u gwirfodd, nid i wneud arian nac am fod y gyfraith yn dweud bod rhaid iddynt, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth. Rydym am sicrhau ein bod ni gyd yn barod i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas. I wneud hyn mae angen mudiadau gwirfoddol nawr yn fwy nag erioed. Ond ni all neb wneud hynny ar ei ben ei hun. Mae CGGC yma fel y gallwn ni gyd wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Together for Change
Busnes cymdeithasol dynamig yw Gyda’n Gilydd dros Newid sy’n pontio gweithredu dan arweiniad cymuned, gwaith ymchwil a pholisi – gan roi pobl wrth wraidd y newid ar bob adeg. Mae’r mudiad wedi tyfu o fudiad gweithredu lleol i fudiad cenedlaethol, gan hyrwyddo newid dan arweiniad y gymuned sy’n seiliedig ar leoedd ledled Cymru.
UnLtd
UnLtd yw’r Sefydliad i Entrepreneuriaid Cymdeithasol, elusen gofrestredig yn y DU a sefydlwyd yn 2002. Ein gobaith yw am ddyfodol lle mae pobl arloesol yn trawsnewid ein cymdeithas er da. Galwn y bobl hyn yn entrepreneuriaid cymdeithasol. Rydym ni’n chwilio entrepreneuriaid cymdeithasol â datrysiadau beiddgar ar gyfer heriau heddiw. Trwy gyllid a chymorth tra theilwredig, rydym ni’n eu helpu i wireddu eu potensial a chreu newid parhaol.
www.unltd.org.uk (Saesneg yn unig)
Cardiff and Vale University Health Board and Macmillan Cancer Support
Mae Macmillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda’i gilydd i wella’r gefnogaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae eich profiadau, mewnwelediadau a’ch profiadau bywyd yn hanfodol i helpu i lywio gwasanaethau sy’n wirioneddol ddiwallu anghenion cleifion a’u teuluoedd.
Trwy rannu’r hyn sydd bwysicaf i chi, byddwch chi’n ein helpu ni i ddatblygu’r prosiect Gwella’r Daith Canser – trwy sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg iawn i bawb a effeithir gan ganser.
Dewch i’n gweld ni ar ein stondin Macmillan i rannu eich barn a chael rhagor o wybodaeth.
https://bipcaf.gig.cymru
https://www.macmillan.org.uk/ (Saesneg yn unig)
WENWales
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ydym ni, a’n gweledigaeth yw am Gymru heb wahaniaethu ar sail rhywedd.
Rydym yn gweithio gyda’n cynghrair fywiog o aelod-fudiadau ac aelodau unigol i drawsnewid cymdeithas – ni all yr un mudiad gyflawni cydraddoldeb ar ei ben ei hun. Mae ein gwaith yn eistedd o dan dri philer. Byddwn yn Cysylltu, yn Hyrwyddo ac yn Ymgyrchu dros fenywod fel bod ein gweledigaeth yn cael ei wireddu.
The Duke of Edinburgh’s Award (DofE)
Bob blwyddyn, mae Gwobr Dug Caeredin (DofE) Cymru yn ysbrydoli dros 10,000 o bobl ifanc o bob cefndir i edrych ar bwy ydynt, magu hyder a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lywio’n llwyddiannus drwy fywyd a gwaith. Rydym ni’n eu cynorthwyo i ymgymryd â’u heriau eu hunain, i ddilyn y pethau sy’n tanio eu diddordeb ac i ddarganfod talentau newydd na wyddent oedd ganddynt. Cyflwynir DofE mewn mudiadau cymunedol, grwpiau ieuenctid, ysgolion, colegau a mwy, ym mhob cwr o Gymru.
Dewch i ddarganfod mwy, cael sgwrs gyfeillgar am y Wobr neu ddod yn bartner cyflenwi yn y farchnadle.
Information Commissioners Office
Ni yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer deddfwriaeth hawliau gwybodaeth, gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i fudiadau ac aelodau o’r cyhoedd ledled y DU, gan hybu arferion da, monitro ac ymchwilio i adroddiadau o dramgwyddau, asesu cydymffurfiaeth mudiadau a chymryd camau gorfodi pan fo’n briodol.
www.ico.org.uk (saesneg yn unig)
DTA Wales
Mudiad aelodaeth annibynnol ac nid-er-elw dros Gymru gyfan yw CYD Cymru. Wedi’i sefydlu yn 2003, rydym ni’n cynorthwyo mentrau cymdeithasol, grwpiau a busnesau o dan arweiniad cymunedau sy’n gyrru’r newid sydd ei angen ar eu cymunedau am ddyfodol mwy disglair.
HSF health plan
Mae Cynllun Iechyd HSF yn cynnig cynlluniau arian parod iechyd fforddiadwy i helpu unigolion a theuluoedd i reoli costau gofal iechyd bob dydd. Rydym yn talu treuliau fel ymgynghoriadau deintyddol, optegol, ffisiotherapi, ac arbenigol. Mae’r holl elw yn cefnogi ein rhiant-elusen, The Hospital Saturday Fund, sy’n darparu grantiau i elusennau meddygol, lleoliadau dewisol meddygol, ac unigolion mewn angen.
Mae ein cynlluniau yn gwneud gofal iechyd yn fwy hygyrch, yn lleihau straen ariannol, ac yn annog llesiant rhagweithiol. Rydym yn creu partneriaeth â mudiadau ac elusennau i hyrwyddo gwell iechyd, gan gynnig ffordd syml ac ymarferol o reoli costau meddygol gan gyfrannu at effaith gymdeithasol gadarnhaol ar yr un pryd.
Big Issue Recruit (BIR)
Mae Big Issue Recruit (BIR), a sefydlwyd yn 2022, yn ymateb beiddgar, pobl yn gyntaf i gyflogaeth gynhwysol. Mae BIR, y fenter arloesol ddiweddaraf gan Grŵp y Big Issue, yn wasanaeth recriwtio arbenigol sy’n ymroddedig i weithio gyda chyflogwyr i gynorthwyo pobl a effeithir gan dlodi i symud i mewn i waith. Wrth wneud hynny, rydym ni’n cysylltu unigolion sy’n wynebu rhwystrau i waith â gyrfaoedd cynaliadwy ac ystyrlon.
Rydym ni’n agor llwybrau i gyflogaeth i bobl o gefndiroedd amrywiol, gan helpu cyflogwyr i gadw staff ac adeiladu timau cymdeithasol gyfrifol gyda phobl sy’n ymrwymedig i adeiladu gyrfa o fewn eu mudiad.
www.recruit3.org.uk ac www.bigissue.com/big-issue-recruit/ (Saesneg yn unig)
WCVA Safeguarding
Mae tîm diogelu CGGC yma i’ch cefnogi â gwybodaeth am eich cyfrifoldebau gofalu a’ch helpu chi i gadw eich pobl yn ddiogel.
Mae tîm Diogelu CGGC yn cynnig amrediad eang o wasanaethau, o wasanaeth ymholiadau un-i-un i hyfforddiant diogelu pwrpasol. Gellir cael rhagor o wybodaeth ein gwefan.
Yn gofod3 eleni, bydd y tîm diogelu wrth law i ateb eich ymholiadau diogelu ac i ddangos rhai o’r adnoddau digidol newydd sydd wedi’u creu i’w gwneud hi’n haws i chi ddiogelu eich mudiad.
Beth am ddod draw i gael sgwrs â ni yn y neuadd arddangos?
https://wcva.cymru/cy/diogelu/
Glamorgan Voluntary Services (GVS)
Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol dros Fro Morgannwg. Fel elusen annibynnol, rydym yn cefnogi rhwydwaith bywiog o fudiadau gwirfoddol a chymunedol, gyda’r genhadaeth gyffredin i wella ansawdd bywyd unigolion a chymunedau ledled yr ardal.
Rydym yn cynnig swît gynhwysfawr o wasanaethau sydd wedi’u dylunio i gryfhau’r sector gwirfoddol, gan ymdrin â meysydd allweddol fel gwirfoddoli, llywodraethu a chyllid. Trwy sianelu ymgysylltu amrywiol, mae ein tîm profiadol yn grymuso mudiadau i ghttps://www.gvs.walesyflawni eu gwaith yn hyderus, yn gynaliadwy ac yn effeithiol.
Velindre Cancer Charity (Velindre University NHS Trust)
Elusen Felindre yw cangen elusennol swyddogol Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chanolfan Ganser Felindre, a elwir yn Ysbyty Gobaith. Felindre yw’r prif ddarparwr cemotherapi a radiotherapi yng Nghymru ac mae disgwyl iddo ehangu ein gwasanaethau yn ystod y ddwy i bum mlynedd nesaf.
Drwy arian a godir gan roddwyr a gweithgareddau codi arian, rydym yn gallu cyllido llawer iawn o brosiectau a gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru gan gynnwys gwasanaethau seicoleg, gwasanaethau hawliau lles, rolau gwybodaeth i gleifion, rhaglen ar gyfer gwirfoddoli mewn ysbyty, 50% o nyrsys arbenigol, adnoddau plant, ymchwil arloesol a threialon clinigol, a llawer mwy.
www.velindrefundraising.com
Thirtyone:eight
Mae Thirtyone:eight yn elusen Gristnogol annibynnol sy’n darparu cyngor proffesiynol, hyfforddiant, cymorth ac adnoddau ym mhob maes diogelu plant ac oedolion mewn perygl o niwed. Rydym wedi bod yn gweithio gydag eglwysi ers 1971.
Mae Thirtyone:eight yn helpu unigolion, mudiadau, elusennau, grwpiau ffydd a chymunedol i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed rhag camdriniaeth.
Ein gweledigaeth yw byd lle gall pob plentyn ac oedolyn deimlo’n ddiogel a bod yn ddiogel.
https://thirtyoneeight.org/
Tenovus Cancer Care
Mae Gofal Canser Tenovus yn elusen yng Nghymru sy’n rhoi cymorth, gobaith a llais i bawb yr effeithir arnyn nhw gan ganser. Mae ein hystod eang o wasanaethau’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth arbenigol i bobl sy’n byw gyda chanser, a’u hanwyliaid.
Mae ein nyrsys profiadol yma 365 diwrnod y flwyddyn i ateb unrhyw gwestiynau am ganser. Gallwn helpu gyda phryderon ynghylch arian a darparu lle diogel i siarad am effaith emosiynol diagnosis.
Rydym yn dod â thriniaethau yn agosach at adref, ac mae ein rhwydwaith unigryw o gorau yn hwyl, y gyfeillgar ac yn codi calon. Mae llawer o’n gwasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
https://www.tenovuscancercare.org.uk/
Y Brifysgol Argoed yng Nghymru
Y Brifysgol Agored yw darparwr mwyaf addysg uwch rhan-amser i israddedigion yng Nghymru. Mae ymhlith y gorau yn y byd am ddarparu cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau i israddedigion a myfyrwyr ôl-radd a chyrsiau mynediad.
Mae mwy na 15,500 o fyfyrwyr o gymunedau ar hyd a lled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored (OU) ar hyn o bryd, a mwy na dwy ran o dair o’r rhain mewn cyflogaeth wrth iddynt astudio. Mae’r OU yn gweithio gyda busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu eu staff, ac yn annog mwy o bobl i mewn i’r maes dysgu gydol oes, waeth beth yw eu cefndiroedd.
Yn Gofod3 byddwn yn canolbwyntio ar y rhaglen Elwa drwy Wirfoddoli, Dysgu Agored (cynnig am ddim yr OU) a bydd staff yr OU yn cynnig arweiniad ar sut gallwn barhau i weithio gyda’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Senedd Cymru
Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. O fis Mai 2026 ymlaen bydd rhai newidiadau i’r Senedd, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr Aelodau, newidiadau i’r systemau pleidleisio ac etholaethau newydd.
Sported Foundation
Mae Sported yn darparu adnoddau i rwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol, gan gefnogi tua miliwn o bobl ifanc bob blwyddyn i oresgyn rhwystrau er mwyn gwireddu eu potensial llawn.
Trwy gryfhau effaith, cynaliadwyedd a chynhwysiant clybiau chwaraeon cymunedol llawr gwlad, mae Sported yn sicrhau bod pobl o’n holl gymunedau yn cael mynediad cyfartal at weithgarwch corfforol, ac elwa ar sut mae chwaraeon yn newid bywydau.
Trawsnewid bywydau a chymunedau trwy chwaraeon llawr gwlad.
www.sported.org.uk
Tempo Time Credits
Mae Credydau Amser Tempo yn offeryn unigryw ac arloesol a ddatblygwyd gan Tempo. Mae Credydau Amser yn gwasanaethu fel arian cyfred cymunedol y mae unigolion yn ei ennill am wirfoddoli eu hamser mewn prosiectau a mentrau cymunedol amrywiol.
Yna gellir cyfnewid y Credydau Amser a enillwyd am fynediad at wasanaethau, digwyddiadau neu weithgareddau o fewn y gymuned. Mae hyn nid yn unig yn annog ac yn gwobrwyo gwirfoddoli ond hefyd yn hyrwyddo ymdeimlad o ymgysylltu â’r gymuned a chydberthynas.
https://wearetempo.org/
Stori Wales
Mewn byd delfrydol, dylai pawb fod â chartref lle gallant ffynnu ynddo. Ond nid yw’r byd yn ddelfrydol, a dyna pam rydym ni yma.
Dechreuon ni fel Hafan Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, i helpu pobl sy’n byw mewn ofn o gam-drin domestig. Newidiodd yr enw i Stori yn 2023 oherwydd yr oeddem yn teimlo ei fod yn dweud mwy amdanom ni.
Rydym yn gymdeithas dai gofrestredig sy’n darparu cymorth arbenigol i unigolion a theuluoedd mewn argyfwng, gan gynnwys VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) a chyrsiau hyfforddi mewn pynciau sy’n gysylltiedig ag Iechyd Meddwl a gwersi perthynas iach ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.
www.storicymru.org.uk
Sport Diversity Cymru
Yn Sport Diversity Cymru rydym yn hyrwyddo pŵer trawsnewidiol chwaraeon fel grym ar gyfer undod a llawenydd. Rydym yn grymuso cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru drwy chwaraeon, gan ddarparu amgylchedd sy’n hybu cysylltiad, rhagoriaeth a thwf.
Rydym yn ymroddedig i agor drysau i gyfleoedd ac amlygu’r rhai sy’n esiampl ac yn ysbrydoli. Mae ein cefnogaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r gêm, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a photensial trwy addysg ac ymgysylltu â’r gymuned.
https://www.linkedin.com/company/sports-diversity-cymru/?viewAsMember=true
Scouts Cymru
Mae ScoutsCymru yn cynrychioli’r mudiad Sgowtio bywiog yng Nghymru. Bob wythnos, mae ein tîm ymroddedig o 4,500 o wirfoddolwyr yn cefnogi dros 14,000 o bobl 4 i 25 oed ledled Cymru, gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer yr ysgol, y coleg, y brifysgol, y cyfweliad ar gyfer swydd, yr araith bwysig, yr her anodd a’r breuddwydion mawr: y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd. Rydym yn gwneud hyn trwy addysg awyr agored, antur, hwyl a chyfeillgarwch.
https://scoutscymru.org.uk/
Samaritans
Mae’r Samariaid yn wasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae tua 800 o wirfoddolwyr yn gweithio yn ein naw cangen yng Nghymru, ac yn ymateb i alwadau dros y ffôn, e-bost, neges destun ac yn bersonol – yn ein canghennau neu mewn digwyddiadau ledled Cymru.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r cyfryngau i hysbysu’r cyhoedd ac esbonio sut y gallwn helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd ymlaen eu hunain.
Rydym yn estyn allan at grwpiau lle mae risg uchel o hunanladdiad. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill i gyflawni newid yn lleol, a llywio penderfyniadau polisi sy’n cael effaith ar risg hunanladdiad.
https://www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/
Public Services Ombudsman Wales
Sefydlwyd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ym mis Ebrill ac mae’r Ombwdsmon presennol, Michelle Morris wedi bod yn y swydd ers mis Ebrill 2022.
Rôl yr OGCC yw:
- Ymchwilio i gwynion bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
- Ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr Cymru wedi torri eu Cod Ymddygiad.
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru.
https://www.ombwdsmon.cymru
Royal Voluntary Service (RVS)
Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn cynnull gwirfoddolwyr i gefnogi’r GIG a phobl mewn angen, er mwyn meithrin gwydnwch mewn cymunedau lleol. Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio gyda thimau gofal iechyd ac mewn cymunedau, gan ddarparu cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol pan fydd pobl yn ei chael hi’n anodd.
Fel un o sefydliadau gwirfoddoli mwyaf Prydain, rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol sy’n cefnogi iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol a llesiant. Mae’r gefnogaeth a ddarparwn (o gludo pobl adref o’r ysbyty i gynnal llyfrgelloedd cartref a darparu cymorth cwmnïaeth) yn hyrwyddo gwell iechyd, rhyngweithio a chysylltu cymdeithasol, gan leddfu’r pwysau ar y GIG a’r System Gofal.
https://www.royalvoluntaryservice.org.uk/
RNIB Cymru
RNIB Cymru yw’r elusen golled golwg fwyaf yng Nghymru, sy’n darparu cymorth a gwasanaethau i bobl ddall a’r rhai sy’n gweld yn rhannol, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Ein nod yw gwella bywydau a grymuso pobl i addasu i golled golwg a chadw eu hannibyniaeth. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ledled Cymru i ddarparu prosiectau, hyfforddiant, gwasanaethau a rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
rnib.org.uk/cy/nations/cymruwales/
Pugh Computers
Gyda 44 mlynedd o brofiad, mae Pugh yn grymuso mudiadau gwirfoddol drwy ddatrysiadau technoleg arloesol a dwyieithog.
Fel Darparwr Dibynadwy CGGC a Phartner Datrysiadau Gwaith Modern Microsoft gydag Arbenigedd mewn Rheoli Addasiadau a Newid, rydym yn cynnig gwasanaethau wedi’u teilwra sy’n datrys heriau’r byd go iawn.
Mae ein harbenigedd yn cwmpasu trwyddedau a chydymffurfiaeth â meddalwedd, mannau cwrdd hybrid a gwasanaethau proffesiynol – sydd wedi’i wella gyda’n Siop Glyweledol a Chaledwedd newydd sbon. Rydym ar flaen y gad o ran mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial (AI) gydag arddangosfeydd, gweithdai a digwyddiadau ‘promptathon’ Microsoft Copilot.
Rydym yn falch o fod yn gweithio yng Nghymru, ac yma i’ch helpu i weithio’n fwy craff a gwneud mwy o effaith.
www.pugh.co.uk
Newid
Mae Newid yn hyrwyddo ymarfer digidol da ar draws y trydydd sector yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Cyflawnir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, sy’n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o safonau gwasanaethau digidol CGCD (Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol) ar gyfer Cymru.
Dewch draw i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael gwybodaeth, cynigion hyfforddi, a chefnogaeth
https://www.newid.cymru/
nfpResearch
Mae nfpResearch yn asiantaeth ymchwil i’r farchnad flaenllaw yn y sector nid-er-elw. Rydym yn darparu mewnwelediadau sy’n cael eu hysgogi gan ddata i elusennau a mudiadau nid-er-elw sy’n eu grymuso i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a manteisio i’r eithaf ar eu heffaith wrth helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Rydym yn cynnal ystod o waith ymchwil ledled y DU, o dracio brand ar y cyd â’r cyhoedd a gwleidyddion i ymchwilio gyda chyllidwyr a newyddiadurwyr. Gan fabwysiadu ystod o fethodolegau ymchwil, rydym yn bwriadu cefnogi elusennau i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth, gan eu helpu i lywio drwy heriau a manteisio i’r eithaf ar eu heffeithiolrwydd mewn tirwedd elusennol sy’n esblygu.
https://nfpresearch.com/
Outcomes Star
Rydym yn cefnogi mudiadau i ymgorffori’r Outcomes Star yn eu gwaith a’i ddefnyddio’n dda! Mae Outcomes Star yn ddull sy’n seiliedig ar ymchwil, sy’n canolbwyntio ar y person ar gyfer tywys unigolion a’r bobl sy’n eu cefnogi ar hyd taith o newid. Mae’r dull yn integreiddio mesur canlyniadau o fewn cefnogaeth un-i-un, gan ei gwneud hi’n haws i’r rhai sy’n cael eu cefnogi a’r rhai sy’n cefnogi weld, deall a dathlu pob carreg filltir ar eu llwybr cynnydd.
www.outcomesstar.org.uk
ProMo Cymru
Mae ProMo Cymru yn gweithio i Gyfathrebu/Dylunio/ a Datblygu gyda phobl ifanc a chymunedau i wneud i newid ddigwydd. Mae ProMo yn creu partneriaeth â’r trydydd sector a sectorau cyhoeddus er mwyn Dychmygu/Profi/Creu gwasanaethau tecach sy’n cael eu cynllunio a’u cyflawni gyda phobl. Mae ProMo yn elusen gofrestredig a menter gymdeithasol.
https://promo.cymru/cy/
Plattform
Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n profi problemau gyda’u hiechyd meddwl, a chymunedau, i greu mwy o ymdeimlad o gysylltiad, perchnogaeth a lles.
Rydym yn mabwysiadu dull gweithredu cyfannol a chyfiawnder cymdeithasol o ran iechyd meddwl, gan edrych ar achosion sylfaenol trallod a chreu systemau ar gyfer cymunedau ffyniannus.
I’r rhai sy’n gweithio mewn ‘systemau cymorth’ mae’n ymwneud â sut rydym yn meddwl am y systemau hynny ac am weithredu ynddyn nhw, gan ddeall pwysigrwydd iechyd perthynol ac effaith y penderfynyddion cymdeithasol ar ein hiechyd meddwl.
Mae Lles Platfform yn darparu hyfforddiant ynghylch iechyd meddwl, arweinyddiaeth, cymorth lles yn y gweithle, goruchwyliaeth a chwnsela i fudiadau ac unigolion.
https://platfform.org/cy/
Mudiad meithrin
Mae gwasanaethau ‘Cymraeg i Blant’ ar gael o’r cychwyn cyntaf i helpu rhieni newydd i siarad Cymraeg â’u plentyn yn y cartref ac i’w cefnogi wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Mae ein grwpiau wythnosol am ddim o’r enedigaeth fel Tylino babi, a Ioga babi ac Arwyddo stori a chân yn helpu rhieni i ddysgu mwy am ba hwiangerddi, llyfrau ac apiau y gellir eu cyflwyno yn y cartref – maen nhw hefyd yn gyfle i rieni gymdeithasu a chwrdd â rhieni newydd.
Mentrau Iaith Cymru
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn cefnogi’r rhwydwaith o ‘Fentrau Iaith’ trwy amryw o weithgareddau.
Ein prif nod yw cefnogi’r Mentrau Iaith:
- Darparu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, syniadau a chydweithio drwy amrywiaeth o gyfarfodydd, cynadleddau a hyfforddiant.
- Dylanwadu er budd y Gymraeg, trwy ymateb i ymgynghoriadau ar eu rhan.
- Datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol.
- Cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisïau mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.
Mae hyrwyddo gweithgareddau’r Mentrau Iaith a chreu ymgyrchoedd cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan fawr o waith MIC.
National Lottery Heritage Fund
Gydag arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau o rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â’u treftadaeth. Rydym hefyd yn dosbarthu arian ar ran llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig.
Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol rydych chi’n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn lle ac yn cefnogi economïau lleol.
Ers 1994, rydym wedi dosbarthu dros £9.2 biliwn i fwy na 52,000 o brosiectau ledled y DU.
https://www.heritagefund.org.uk/
National Churches Trust
Cenhadaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yw gweld casgliad gwych Cymru o eglwysi, capeli a thai cyfarfod hanesyddol yn parhau’n agored, yn cael eu defnyddio ac mewn cyflwr da. Rydym yn falch o gefnogi’r adeiladau rhyfeddol, pwysig hyn, a’r bobl sy’n dod â nhw’n fyw. Maen nhw’n gonglfeini diwylliant Cymru, asedau cymunedol gwerthfawr sy’n darparu gweithgareddau hanfodol a phrofiad allweddol i ymwelwyr.
Rydym yn rhoi arweiniad, cymorth swyddogion o bell ac yn bersonol, rhaglen grantiau, mynediad at hyfforddiant, mewnbwn twristiaeth, ynghyd â mewnwelediad menter a chynhyrchu incwm i sicrhau bod y mannau anhygoel hyn yn parhau i wasanaethu eu cymunedau ac yn diogelu treftadaeth y genedl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
www.nationalchurchestrust.org/get-support/cherish-support-scotland-wales-cymru-and-north-west-england/get-support-wales-cymru
Mencap Cymru
Mae Mencap Cymru eisiau i Gymru fod y lle gorau i bobl ag anabledd dysgu fyw ynddo.
Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn ymwneud â sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal, yn cael eu cynnwys a bod eu llais yn cael ei glywed.
Rydym yn cynnal Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan gynnwys Gwyliau Banc.
https://wales.mencap.org.uk/
Localgiving
Sefydlwyd Localgiving mewn ymgais i gynnig gwasanaethau rhoddion digidol a phresenoldeb ar-lein i elusennau’r DU ar adeg pan oedd y ddau allan o gyrraedd y rhan fwyaf o fudiadau.
Ers 2012 rydym wedi bod yn falch o gysylltu mudiadau llawr gwlad â rhoddion, codi arian a grantiau yn ogystal ag adnoddau a chefnogaeth. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar ddod â thechnoleg flaengar i hyd yn oed y lleiaf o elusennau a grwpiau cymunedol, bob amser yn canolbwyntio ar eu helpu nhw i godi mwy o arian.
www.localgiving.org
HSF health plan
Mae Cynllun Iechyd HSF yn cynnig cynlluniau arian parod iechyd fforddiadwy i helpu unigolion a theuluoedd i reoli costau gofal iechyd bob dydd. Rydym yn talu treuliau fel ymgynghoriadau deintyddol, optegol, ffisiotherapi, ac arbenigol. Mae’r holl elw yn cefnogi ein rhiant-elusen, The Hospital Saturday Fund, sy’n darparu grantiau i elusennau meddygol, lleoliadau dewisol meddygol, ac unigolion mewn angen.
Mae ein cynlluniau yn gwneud gofal iechyd yn fwy hygyrch, yn lleihau straen ariannol, ac yn annog llesiant rhagweithiol. Rydym yn creu partneriaeth â mudiadau ac elusennau i hyrwyddo gwell iechyd, gan gynnig ffordd syml ac ymarferol o reoli costau meddygol gan gyfrannu at effaith gymdeithasol gadarnhaol ar yr un pryd.
www.hsf.co.uk
Learning Disability Wales
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn elusen genedlaethol sy’n cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.
Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu gael byw, dysgu caru a gweithio ynddi.
Rydym yn chwarae rhan unigryw yn y broses o wneud i hyn ddigwydd – trwy ein gwasanaethau ein hunain, gweithio mewn partneriaeth â mudiadau erailll, a dylanwadu ar bolisi.
Hugh James Solicitors
Yn Hugh James, rydym yn deall yr heriau unigryw sy’n wynebu elusennau a mudiadau nid-er-elw. Mae ein Tîm Elusennau ymroddedig yn cyfuno arbenigedd cyfreithiol eang gyda dealltwriaeth glir o’r angen am benderfyniadau masnachol cadarn, gan ganolbwyntio’n gryf ar eich nodau elusennol craidd.
Gyda blynyddoedd o brofiad yn cynghori ystod amrywiol o elusennau lleol a chenedlaethol ledled Cymru a Lloegr, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ymarferol a chyfreithiol sy’n galluogi’ch mudiad i ffynnu.
hughjames.com
Home-Start Cymru
Mae Home-Start Cymru, (HSC) wedi bod yn ffynhonnell gymorth ddibynadwy i deuluoedd ledled Cymru ers dros 25 mlynedd. Rydym yn darparu gwasanaethau tosturiol, a arweinir gan anghenion sydd wedi’u cynllunio i rymuso rhieni a gofalwyr i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar feithrin yr hyder, y sgiliau a’r cysylltiadau sydd eu hangen ar deuluoedd i greu amgylcheddau diogel a chariadus lle gall plant ffynnu.
Mae HSC yn cynnig gwasanaeth cymorth penodol trwy ein model cymorth dan arweiniad gwirfoddolwyr, ein dull o gyflawni sy’n ystyriol o drawma, ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth a thrwy gyd-gynhyrchu. Rydym yn sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cymorth ymarferol ac emosiynol wedi’i deilwra i’w hanghenion unigol.
Hapus
Ni yw Hapus, gofod sydd wedi ymrwymo i les meddyliol, lle rhanwyd syniadau ac adnoddau i ysbrydoli pob un ohonom i gymryd camau i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol ni a phobl eraill.
A ydych chi’n sefydliad sy’n gwella lles meddyliol? Ymunwch a’n symudiad i amddiffyn a gwella lles meddyliol pobl yng Nghymru, boed eich bod yn cefnogi unigolion neu yn dod â phobl at ei gilydd yn eich cymuned.
Dewch draw, dywedwch helô, ac ymunwch a’r sgwrs cenedlaethol ar lesiant.
HEIW – Health Education Improvement Wales
AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) yw corff cynllunio gweithlu a datblygiad proffesiynol y GIG, ac rydym yn canolbwyntio ar y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol – y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Ei nod yw cynyddu’r gweithlu iechyd meddwl, cefnogi datblygiad proffesiynol o fewn maes iechyd meddwl a gweithio’n agosach gyda mudiadau partner i ddarparu gwell gwasanaethau iechyd meddwl.
https://aagic.gig.cymru/gweithlu/cynllun-gweithlu-iechyd-meddwl-strategol/
Geldards
Rydym yn gwmni cyfreithiol masnachol sy’n arbenigo mewn cyfraith elusennol a dyma’r unig gwmni cyfreithiol sydd wedi’i restru yn yr haen uchaf ar gyfer gwaith elusennol yng Nghymru.
Rydym yn gwmni cyfreithiol cenedlaethol gwasanaeth llawn cadarn a llwyddiannus a sefydlwyd dros 100 mlynedd yn ôl yng Nghymru. Yn greiddiol i’n busnes yw bod yn agored a chyfeillgar gydag uniondeb diysgog. Ein nod yw datblygu perthnasoedd hirdymor, buddiol i’r ddwy ochr, gyda’n holl gleientiaid. Rydym yn deall a byddwn yn cefnogi eich awydd i ffynnu a llwyddo.
www.geldards.com
Disability Wales
Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs) sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb pob person anabl. Ein rôl graidd yw mynegi safbwyntiau a blaenoriaethau aelodau i’r llywodraeth gyda’r nod o lywio a dylanwadu ar bolisi.
Rydym yn cymryd rhan weithredol wrth ddylanwadu ar waith y Tasglu Hawliau Anabledd a chefnogi ymgysylltiad aelodau wrth ddatblygu’r Cynllun Gweithredu. Rydym yn darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau llawn o Sefydliadau Pobl Anabl ac yn cynnal prosiectau sydd â’r bwriad o gynyddu cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus gan gynnwys y Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth.
www.disabilitywales.org/?lang=cy
Drive Wales
Mae Drive yn ddarparwr ar gyfer y rhai sy’n byw â chymorth. Rydym yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, awtistiaeth ac iechyd meddwl.
Rydym yn fudiad arloesol yn ne Cymru sy’n darparu cymorth sy’n torri tir newydd i bobl ag anableddau dysgu i fyw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis yn eu cymunedau lleol. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, rydym yn darparu cymorth staff o ansawdd uchel a llety er mwyn i bobl fwynhau’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis, gyda’r lefel gywir o gefnogaeth i wneud hynny.
https://www.drive-wales.org.uk/
Cymru Versus Arthritis
Mae gan y mudiad Cymru Versus Arthritis ddegawdau o brofiad yn trawsnewid bywydau pobl sydd ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, ymchwilwyr a phobl ag arthritis o bob oed i wneud popeth y gallwn i gyflawni ein gweledigaeth o ‘ddyfodol heb arthritis’. Rydym yn gwneud hyn trwy fuddsoddi mewn ymchwil o’r radd flaenaf, darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, ac ymgyrchu ar y materion pwysicaf i bobl ag arthritis.
Mae partneriaeth a chydweithredu yn greiddiol i’n mudiad.
Mae ein cefnogaeth yn helpu i leihau ynysigrwydd, meithrin gwydnwch a hyder, datblygu sgiliau hunanreoli a chyflawni canlyniadau gwell i bobl ag arthritis.
www.versusarthritis.org
Eye to Eye Counselling Service
Mae Llygad yn Llygad yn wasanaeth cwnsela am ddim a sefydlwyd ym 1995 ac sy’n gweithio ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn darparu tua 9,000 o sesiynau cwnsela y flwyddyn i rai 10 i 30 oed a hefyd yn cefnogi tua 300 o blant ac oedolion sydd wedi dioddef trawma yn sgil digwyddiad yn eu cartref neu gymuned.
Rydym yn cynnig hyfforddiant pwrpasol yn ein maes arbenigedd, sef plant a phobl ifanc, i fudiadau a’r sector gwirfoddol. Rydym hefyd yn cefnogi colegau lleol trwy ddarparu lleoliadau myfyrwyr i gwnselwyr dan hyfforddiant.
Data Cymru
Mae Data Cymru yn gwmni llywodraeth leol yng Nghymru ac rydym yn cynnig ystod o gymorth arbenigol sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i ddata a’u defnyddio’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys:
- Cymorth i ganfod, casglu neu goladu data.
- Dadansoddi data a chyflwyno data’n effeithiol.
- Cyngor ar y ffyrdd gorau o ymgymryd â gwaith ymchwil.
- Cymorth i ddarganfod beth y mae dinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid yn ei feddwl.
- Hyfforddi’ch staff mewn pynciau perthnasol megis ystadegau sylfaenol, cyflwyno data, rheoli perfformiad, dylunio a dadansoddi arolygon, a dylunio holiaduron ac ati.
- Darparu mynediad cost-effeithiol i ystod o setiau data masnachol.
https://www.data.cymru/cym/
Cwmpas
Mae Cwmpas yn gweithio ar draws sectorau er mwyn cyflawni newid cadarnhaol i greu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal. Credwn y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio mewn modd gwahanol i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb lle mae mwy o fusnesau yn defnyddio eu helw er lles a lle mae cymunedau’n cael eu grymuso i lunio eu dyfodol eu hunain.
Rydym yn fudiad cenedlaethol sydd wedi’i wreiddio mewn ardaloedd lleol, ac rydym yn cefnogi cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i wella ac arloesi. Mae ein gwaith yn cynnwys cyngor busnes arbenigol, cymorth busnes cymdeithasol, cynhwysiant digidol, datrysiadau tai a gofal a arweinir gan y gymuned ac ystod o wasanaethau dysgu, datblygu ac ymgynghori.
https://cy.cwmpas.coop/
Welsh Language Commissioner
Mae tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda’r trydydd sector (yn ogystal â busnesau) er mwyn eu hannog a’u cynorthwyo i gynyddu eu gwasanaethau Cymraeg. Rydym yn cynorthwyo mudiadau i greu cynlluniau datblygu’r Gymraeg, yn cynnal hyfforddiant, cynnal ymchwil, a chreu canllawiau. Rydym yn cynnig sgyrsiau un-i-un gyda mudiadau’r trydydd sector er mwyn trafod unrhyw gymorth sydd ar gael.
Co-production Network for Wales
Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn dwyn ynghyd gymuned o bobl sy’n credu yng ngwerthoedd cyd-gynhyrchu a chynnwys dinasyddion. Rydym yn darparu hyfforddiant, lle ar gyfer dysgu ar y cyd, a chefnogaeth bwrpasol i wella canlyniadau i bobl ledled Cymru drwy ymgorffori cyd-gynhyrchu a chynnwys dinasyddion.
https://copronet.wales/cy/
Chartered Institute of Fundraising Cymru
Y Sefydliad Siartredig Codi Arian, yw’r corff aelodaeth ar gyfer codi arian yn y DU. Rydym yn elusen sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo gwaith codwyr arian unigol, elusennau, a’u partneriaid. Credwn y gall codi arian fod yn yrfa sy’n rhoi boddhad mawr, yn llawn cyfraniad a chyflawniad.
www.ciof.org.uk
Charity Commission for England and Wales & Fundraising Regulator
Y Comisiwn Elusennau yw adran annibynnol, anweinidogol y llywodraeth sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- Cofrestru mudiadau cymwys.
- Sicrhau bod elusennau yn bodloni eu gofynion cyfreithiol.
- Cymryd camau gorfodi pan fo camymarfer neu gamymddwyn.
- Darparu arweiniad i helpu elusennau i weithredu mor effeithiol â phosibl.
- Darparu gwasanaethau ar-lein i elusennau.
Y Rheoleiddiwr Codi Arian yw’r rheoleiddiwr annibynnol, anstatudol ar gyfer codi arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
O godi arian ar y stryd i ddigwyddiadau codi arian ar raddfa fawr, rydym yn rheoleiddio’r holl waith codi arian yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gynhelir gan sefydliadau elusennol a chodwyr arian trydydd parti.
Charities Aid Foundation
Mae’r Sefydliad Cymorth i Elusennau (CAF) yn grŵp o fudiadau elusennol yn y DU a Gogledd America sy’n gweithredu’n fyd-eang – y Sefydliad Cymorth Elusennau yn y DU.
Mae CAF yn bodoli i gefnogi’r sector elusennol drwy grantiau, ymchwil, lobïo, codi arian ac ymgynghoriaeth.
Mae CAF yn hyrwyddo dyngarwch ac yn gweithio gyda chorfforaethau ac unigolion gwerth net uchel i gynyddu rhoddion elusennol. Trwy ei is-gwmnïau mae CAF hefyd yn darparu gwasanaethau bancio ac ariannol ar gyfer mudiadau nid-er-elw ac elusennol.
https://www.cafonline.org/
Carers Trust
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen genedlaethol uchelgeisiol sy’n ymrwymedig i wella’r cymorth a’r gwasanaethau i ofalwyr di-dâl. Nod yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw llunio dyfodol gwell ar gyfer a chyda gofalwyr drwy godi ymwybyddiaeth, grymuso gofalwyr a dylanwadu ar bobl i greu newid. Rydym yn cydweithio â’n Partneriaid Rhwydwaith – mudiadau gofalwyr lleol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol. Y llynedd, gwnaeth ein Partneriaid Rhwydwaith gefnogi mwy na 28,000 o ofalwyr yng Nghymru.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cyflwyno rhaglenni trawsnewidiol i ofalwyr di-dâl, gan gynnwys y Cynllun Gwyliau Byr, y Gronfa Cymorth Gofalwyr a ‘Carer Aware’, ac yn ceisio cynorthwyo a gwella cyfleoedd i Ofalwyr Ifanc.
https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-wales-welsh
Bevan Buckland
Bevan Buckland yw cwmni cyfrifwyr annibynnol mwyaf Cymru. Yn ogystal â darparu gwasanaethau cyfrifyddu safonol i fusnesau bach, canolig a mawr, rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau cyflogres, treth, ymgynghori a chynghori arbenigol.
Bevan Buckland hefyd yw’r cwmni archwilio annibynnol mwyaf yn y rhanbarth ac rydym yn fedrus iawn wrth ddarparu archwiliadau ar gyfer mudiadau nid-er-elw. Mae gennym wyth partner, gan gynnwys 2 Bartner Treth ac 1 Partner Treth Ymchwil a Datblygu. Mae gennym hefyd ddau gyfarwyddwr sy’n arwain tîm profiadol o dros 140 o staff ar draws pum swyddfa.
Mae ansawdd ein gwasanaeth cleientiaid wrth wraidd ein llwyddiant. Rydym yn creu partneriaeth â’n cleientiaid i ddeall eu hanghenion unigol a rhoi atebion sy’n ychwanegu gwerth at eu busnesau. Rydym yn sicrhau ein bod bob amser yn hygyrch ac yn ymatebol i’n cleientiaid.
https://bevanbuckland.co.uk/
Barod Community Interest Company
Mae Cyfryngau Barod yn dîm o bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth sy’n gwneud ffilmiau. Rydym yn arbenigo mewn gwneud ffilmiau ar gyfer busnesau bach a’r sector gwirfoddol. Rydym yn gwneud ffilmiau hir, cynnwys cyfryngau cymdeithasol a’r we a ffilmiau masnachol i werthu eich gwasanaethau. Rydym yn cyd-gynhyrchu ein ffilmiau gyda chleientiaid i wneud yn siŵr bod eich llais yn rhan o’r broses.
www.Barod.org
Barod Project
Yn Barod, mae ein gweithwyr cyfeillgar, hyfforddedig yn gweithredu ar draws y rhan fwyaf o dde a gorllewin Cymru, gan roi cymorth i unigolion yr effeithir arnynt gan alcohol a chyffuriau, a’u ffrindiau a’u teuluoedd. Mae’r gefnogaeth a’r wybodaeth a ddarparwn yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol a hynny heb farnu.
Rydym yn arbenigo mewn cymorth ym maes defnyddio sylweddau ar gyfer oedolion a phobl ifanc.
ARA – Recovery 4 all
Ara Cymru yw darparwr y Rhwydwaith Cymorth Gamblo Cenedlaethol (NGSN) ar gyfer Cymru. Rydym yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ynghylch gamblo, yn ogystal â chwnsela un-i-un wedi’i deilwra ac ystod o gymorth grŵp i unigolion sy’n profi niwed sy’n gysylltiedig â gamblo neu i aelodau o’r teulu yr effeithir arnynt ganddo. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant, siarter seiliedig ar waith a rhaglen addysgol i bobl ifanc.
Mae Ara yn credu mewn darparu gobaith a bywydau gwell. Ers dros 40 mlynedd rydym wedi cynnig gwasanaethau tai ac adfer er mwyn cael effaith gadarnhaol yn ein cymunedau. Ein cenhadaeth yw grymuso unigolion a theuluoedd, gan helpu i drawsnewid eu bywydau a chreu cymunedau cryfach, iachach.
https://www.recovery4all.co.uk/
Age Connects Cardiff and the Vale
Mae Age Connects Caerdydd a’r Fro yn cynnig anadl einioes i aelodau hŷn agored i niwed o’n cymunedau lleol a allai fod yn wynebu unigrwydd ac ynysigrwydd heb fawr ddim cymorth teuluol. Gall effaith ynysigrwydd, unigrwydd a thlodi gael effaith ddinistriol ar iechyd a llesiant. Mae llawer gormod o bobl hŷn yn gwybod sut mae hyn yn teimlo. Y llynedd yn unig cefnogodd Age Connects dros 6,000 o bobl. Mae ein gwasanaethau cymorth yn cynnwys cynnig gwiriadau budd-daliadau, torri ewinedd traed, cefnogaeth gyfeillio, cymorth gyda thasgau dyddiol fel siopa ac ymdrin â gohebiaeth a chwmnïaeth y mae ei hangen yn fawr.
All Wales People First
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yw llais cenedlaethol oedolion yng Nghymru ag anableddau dysgu. Rydym yn fudiad a arweinir gan aelodau, gyda chynrychiolwyr ledled Cymru.
Mae’n unigryw yng Nghymru gan mai dyma’r unig fudiad cenedlaethol sy’n cynrychioli llais dynion a menywod ag anabledd dysgu.
We could not find any entries with this criteria, please check back again later.